I'r modwl gwair.
1 Ai llai fy rhan o anhun
2 a lles a budd ger llys bun
3 Nid hawdd godech na llechu
4 a glewed yw y glaw du
5 Pe rhôn i'r ddor agori
6 y nos ni lafaswn i
7 Rhac gwahardd bun ar vn-gair
8 ai gwaeth yn y modwl gwair
9 Dawn i'm dy fod yn fodwl
10 digrifwas pen-grych-las pwl.
11 Da fu 'r gribin ewin-hîr
12 doe ath gynhullawdd ar dir
13 Mi a'th wisgais maith wascawd
14 mal cochl gwyrdd-las geir gwas gwawd
15 Ceissiais gennit gael cyssellt
16 Colomen-dy gwecry gwellt.
19 Erfai o vn ith luniwyd
20 vn fath llydan dwmpath llwyd.
21 Vn dramgwydd ac arglwyddi
22 teg ac vn artaith wyt ti.
23 Ef ath lâs a dur glas glew
24 fwrdais y weirglawdd fer-dew
25 Y foru sydd iti sir
26 oth lesgedd fe ath luscir
27 Oddyna vwch lanw man-wair
28 dy grogi a gwae fi Fair
29 Cymunaf dy gorph adref
30 i'r nenn a'th enaid i'r nef.
31 Megys angel im gwely
32 ddydd-brawd vwch taflawd y ty
33 yn dyfod i gnoccio'r drws
34 y modwl gwair ai madws.
Dafydd ap Gwilym ai cant.